Y Pwyllgor Menter a Busnes - Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc
Cyfraniadau fideo
Mae'r Tîm Allgymorth wedi cynhyrchu pecyn fideo sy'n cynnwys cyfraniadau gan fyfyrwyr, pobl ifanc sy'n mynd drwy'r broses o ddechrau busnes, perchnogion busnesau ifanc, athrawon a hyfforddwyr ledled Cymru.
Yn ystod pob cyfweliad, gofynnodd y swyddog Allgymorth gyfres o gwestiynau a luniwyd gan y Clerc a'r Ymchwilydd. Rhestrir y cwestiynau a ofynnwyd yn Atodiad A.
Alice Lediard a Dale Johnson, Rheolwyr Gyfarwyddwyr TiaFi Design, Abercynon
Cefndir: Asiantaeth frandio yw TiaFi Design, sy'n rhoi brand gweledol i gwmnïau ac yn ei drosglwyddo i amrywiol lwyfannau (ar-lein a nwyddau).
|
Carwyn Williams, perchennog Café Espresso, Castell-nedd.
Cefndir: Sefydlodd Carwyn ei fusnes cyn gynted ag y cwblhaodd ei radd mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Am y ddwy flynedd gyntaf, bu'n rhedeg uned symudol yn ardal Abertawe cyn symud i eiddo sefydlog ym mis Ebrill eleni.
|
|
Francesca James, Ymgynghorydd Brandio Cyfryngau Cymdeithasol a Rheolwr Gyfarwyddwr Fresh Content Creation, Caerdydd
Cefndir: Nod Fresh Content Creation yw cynorthwyo cwmnïau a brandiau i ymgysylltu â darpar gwsmeriaid a phartneriaid drwy greu cynnwys a chyfryngau cymdeithasol.
|
Neil Cocker, Rheolwr Gyfarwyddwr "Dizzyjam", sef llwyfan e-fasnach a marchnata o Gaerdydd
Cefndir: Mae Neil yn chwarae rhan fawr ym mhrosiect Cardiff Start, sef grŵp o entrepreneuriaid, cwmnïau newydd, sylfaenwyr cwmnïau newydd, pobl greadigol, myfyrwyr a buddsoddwyr sy'n rhannu gwybodaeth, cyngor a chymorth ag entrepreneuriaid newydd.
|
“Target”, Ysgol Uwchradd St Joseph, Wrecsam
Cefndir: Cyfweliad yn rownd derfynol ranbarthol gogledd Cymru o ddigwyddiad Menter yr Ifanc Cymru yn y Rhyl, yn gwerthu blychau bach o ddeunyddiau ysgrifennu mewn ysgolion.
|
Ysgol Uwchradd Prestatyn, Pennaeth y Chweched a Phennaeth Astudiaethau Busnes
Cefndir: Mae'r ddau yn athrawon yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, sydd wedi bod yn rhoi timau at ei gilydd ar gyfer y gysadleuaeth Menter yr Ifanc ers dros 8 mlynedd
|
Atodiad A
Cwestiynau a ofynnwyd i bobl ifanc
Amdanoch chi
1. Allwch chi ddweud ychydig amdanoch chi eich hun a'r hyn rydych yn ei wneud fel entrepreneur ifanc? (natur eich busnes ac ati)
2. Sut brofiad yr ydych chi wedi'i gael fel entrepreneur ifanc yng Nghymru? Pa mor anodd yw hi i ddechrau busnes?
Y cymorth sydd ar gael
3. A ydych chi'n meddwl bod digon o gymorth ar gael i bobl ifanc fel chi i ddechrau busnes?
4. Pa fath o gymorth neu anogaeth yr ydych chi wedi’i chael i fod yn entrepreneur ac i ddechrau eich busnes eich hun?
5. A ddywedodd rhywun wrthych, neu a gawsoch chi wybodaeth am unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i entrepreneuriaid ifanc? A ydych chi'n gwybod am Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru ac, os felly, lle y clywsoch chi amdani?
6. Wrth ddewis eich busnes, a gawsoch chi'ch dylanwadu mewn unrhyw ffordd gan y cymorth sydd ar gael i sectorau penodol?
Gwahaniaethau rhanbarthol a gwahaniaethau eraill
7. A ydych chi'n meddwl bod siawns pobl ifanc o fod yn entrepreneur yn dibynnu o gwbl ar eu cefndir ac ar ba ran o Gymru y maent yn byw?
8. Ble yng Nghymru mae eich busnes a pha gymorth yr ydych chi wedi'i gael yn eich ardal eich hun?
Rôl y sector Addysg Uwch ac Addysg Bellach
9. Yn eich profiad chi, faint o gefnogaeth yr ydych chi'n feddwl y mae colegau a phrifysgolion yn ei roi i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc? A ydych chi wedi cael unrhyw gymorth penodol?
Rhannu profiadau ag eraill
10. A ydych chi'n dod i gysylltiad â phobl ifanc eraill sy'n dechrau busnes ac yn gwneud pethau tebyg? A ydych chi'n cael cyfle i rannu profiadau â nhw ac i ddysgu oddi wrth eich gilydd?
11. Beth y mae eich ffrindiau a'ch teulu yn ei feddwl am y ffaith eich bod yn entrepreneur ifanc? A ydych chi'n teimlo'n wahanol i'ch cyfoedion oherwydd yr hyn rydych yn ei wneud?
Unrhyw sylwadau eraill
12. A oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud am entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru ac am eich profiadau chi? Dyma'ch cyfle i siarad yn uniongyrchol gyda'r rhai sy'n gwneud ac sy'n dylanwadu ar bolisïau yng Nghymru!
Cwestiynau i'r rhai sy'n ymwneud â chyflenwi: staff, darlithwyr ac ati.
Amdanoch chi
1. A allwch chi ddweud ychydig am eich gwaith a'ch profiad o helpu entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?
Rôl y sector Addysg Uwch ac Addysg Bellach
2. I ba raddau yr ydych chi'n meddwl y mae entrepreneuriaeth wedi'i sefydlu yng ngholegau a phrifysgolion Cymru?
Y cymorth sydd ar gael
3. A ydych chi'n meddwl bod digon o adnoddau ac arian yn cael eu targedu at hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru?
4. Beth ydych chi'n ei feddwl yw'r prif broblemau neu rwystrau sy'n wynebu pobl ifanc sy'n awyddus i ddechrau busnes?
Polisi Llywodraeth Cymru
5. Faint o effaith yr ydych chi'n ei feddwl y mae Strategaeth a Chynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn ei chael? A yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw fath o gymorth i'r mentrau rydych chi'n ymwneud â nhw?
6. Sut y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i wella'r cymorth y mae'n ei gynnig i hybu entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc a'r modd y mae'n gwneud hynny?
Gwahaniaethau rhanbarthol a gwahaniaethau eraill
7. A ydych chi'n credu bod gwahaniaeth mawr yn y cymorth sydd ar gael i entrepreneuriaid mewn gwahanol rannau o Gymru?
8. A ydych chi'n meddwl bod cefndir personol, materion economaidd-gymdeithasol, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dylanwadu ar lwyddiant pobl ifanc fel entrepreneuiaid?
Dysgu gan eraill
9. Sut yr ydych chi'n meddwl y gall sefydliadau a prosiectau unigol ddysgu orau oddi wrth enghreifftiau llwyddiannus eraill yng Nghymru, y DU neu'r tu hwnt?
Unrhyw sylwadau eraill
10. A oes yna unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud am entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru ac am eich gwaith a'ch profiadau chi?